Rhif y ddeiseb: P-06-1299

Teitl y ddeiseb: Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd.

Geiriad y ddeiseb: Profodd tân diweddar yng Nghlwb y Gweithwyr Tylorstown fod angen diweddaru'r seilwaith yn y Rhondda Fach ar frys. Roedd y brif ffordd wedi’i rhwystro am sawl diwrnod, dargyfeiriwyd yr holl draffig drwy strydoedd ymyl gan achosi rhwystrau a thagfeydd. Bu'n rhaid cau ysgolion, atal trafnidiaeth gyhoeddus, a chanslo cludiant i'r ysgol. Nid oedd pobl yn gallu cyrraedd y gwaith ac nid oedd llwybr hygyrch ar gyfer cerbydau brys.

Mae'r ffordd liniaru o Tylorstown i Maerdy wedi bod yng nghynllun datblygu lleol yr Awdurdod Lleol ers blynyddoedd, ac mae'n bryd i bobl y Fach weld rhywfaint o weithredu cyflym. Ni all hyn ddigwydd gyda "rhewi" Llywodraeth Cymru ar ffyrdd newydd fel y mae.

 

 


1.        Cefndir

Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd “adolygiad o ffyrdd” yn y Cyfarfod Llawn. Tynnodd sylw at y ffaith bod 17 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn dod o drafnidiaeth, a dywedodd ei fod yn sefydlu panel o “rai o brif arbenigwyr y DU ar drafnidiaeth a newid hinsawdd”, a fyddai’n:

…ystyried gosod profion ar gyfer penderfynu pryd mai ffyrdd newydd yw'r atebion cywir ar gyfer problemau trafnidiaeth, yn unol â strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru. Ac rwyf yn dymuno i'r adolygiad ystyried sut y gallwn ni symud gwariant tuag at gynnal a chadw ein ffyrdd presennol yn well, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau trawsbleidiol yn y Senedd ddiwethaf.

Tynnodd sylw at y targedau newid moddol a nodir yn Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru – sy’n ei gwneud yn ofynnol i 45 y cant o deithiau Cymru gael eu gwneud drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2045. Dywedodd:

Er mwyn cyflawni'r targedau hyn mae angen inni symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl.

Cyhoeddwyd manylion am y panel ym mis Medi 2021. Ym mis Chwefror 2022, cadarnhaodd datganiad gan y Dirprwy Weinidog fod y panel wedi cyflwyno adroddiad interim, ac yr edrychir yn fanylach ar 55 o gynlluniau. Byddai’r rhain yn “sail i'r panel fedru cyflwyno argymhellion at y dyfodol ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru”.

Mae manylion, gan gynnwys cylch gorchwyl y panel a’r rhestr o gynlluniau a adolygwyd, wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae tudalen cylch gorchwyl y panel yn nodi pum maes a fydd yn “flaenoriaeth a'r ffocws ar gyfer buddsoddi ar y ffyrdd” yn y dyfodol “yn unol â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru”. Mae'r rhain yn cynnwys:

buddsoddi sy'n cynnal diogelwch a gwasanaeth y rhwydwaith ffyrdd presennol yn unol â dyletswyddau statudol.

Ar 21 Medi 2022, gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad i ddweud bod y panel wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol, gyda chanfyddiadau ar y 55 o gynlluniau ac “argymhellion a phrofion ar yr amodau lle bernir mai adeiladu ffyrdd newydd yw’r peth iawn i’w wneud”.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai’n ystyried yr adroddiad, ac yn ei gyhoeddi gydag ymateb Llywodraeth Cymru “yn ystod yr hydref”.

2.     Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb

Mae llythyr y Dirprwy Weinidog at y Cadeirydd yn amlygu, fel y trafodwyd uchod, bod cylch gorchwyl y panel yn cynnwys cyfeiriad at ddiogelwch fel ffocws ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd yn y dyfodol.

Mae’n ailadrodd y bydd yr ymateb i’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr argymhellion.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae’r adolygiad o ffyrdd wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Senedd ers iddo gael ei gyhoeddi. Mae'r drafodaeth wedi canolbwyntio ar ystod eang o feysydd, gan gynnwys diogelwch. Er enghraifft yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mehefin 2021, holodd Paul Davies AS y Prif Weinidog ynghylch ystyriaethau diogelwch mewn perthynas â dargyfeirio’r ffordd yn Niwgwl i liniaru perygl llifogydd. Eglurodd y Prif Weinidog:

Nid yw'r ffaith bod gennym ni adolygiad o ffyrdd yn golygu, lle ceir ystyriaethau diogelwch eglur, er enghraifft, na fydd buddsoddiad mewn cyfleusterau ffyrdd newydd yn cael ei wneud. Yn syml, mae'n rhaid i'r bar fod yn uwch nag yr oedd yn y gorffennol i wneud ffordd newydd yn ateb i broblem.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.